Title: Gwirydd Sillafu Cymraeg
Author: stanno
Published: <strong>February 23, 2021</strong>
Last modified: February 26, 2021

---

Search plugins

![](https://ps.w.org/gwirydd/assets/banner-772x250.png?rev=2479790)

This plugin **hasn’t been tested with the latest 3 major releases of WordPress**.
It may no longer be maintained or supported and may have compatibility issues when
used with more recent versions of WordPress.

![](https://ps.w.org/gwirydd/assets/icon.svg?rev=2479790)

# Gwirydd Sillafu Cymraeg

 By [stanno](https://profiles.wordpress.org/stanno/)

[Download](https://downloads.wordpress.org/plugin/gwirydd.zip)

 * [Details](https://pcd.wordpress.org/plugins/gwirydd/#description)
 * [Reviews](https://pcd.wordpress.org/plugins/gwirydd/#reviews)
 * [Development](https://pcd.wordpress.org/plugins/gwirydd/#developers)

 [Support](https://wordpress.org/support/plugin/gwirydd/)

## Description

Dangoswch awgrymiadau sillafu a gramadeg wrth gyhoeddi yn y Gymraeg gyda WordPress.

Datblygwyd yr ategyn hwn ar gyfer [gwasanaeth newyddion a materion cyfoes Golwg360](https://golwg.360.cymru)
a [chynllun cyhoeddi cymunedol Bro360](https://bro.360.cymru) gan [Iwan Standley](https://stanno.cymru)
ar ran [Golwg](https://golwg.cymru).

Mae’n defnyddio’r gwasanaeth Cysill Ar-lein a ddarperir gan [Brifysgol Bangor](https://www.bangor.ac.uk/canolfanbedwyr),
er mwyn cynnig cywiriadau a gwelliannau wrth i chi ysgrifennu cofnodion o fewn golygydd
WordPress. Bydd angen i chi [gofrestru i greu cyfrif am ddim](https://api.techiaith.org/cy/account/signup/)
er mwyn defnyddio’r gwasanaeth (mae rhagor o fanylion yn yr ategyn).

Mae hefyd yn cynnig ffordd hawdd o osod toeon bach ac acenion eraill yn eich cofnod.

Mae **Golwg** yn [falch o rannu’r adnodd hwn](https://bro.360.cymru/2021/gwirydd-sillafu-gramadeg-cymraeg/)
gyda’r gymuned gyhoeddi Cymraeg. Mae croeso i chi [gynnig gwelliannau ac ailddefnyddio’r cod](https://gitlab.com/golwg/gwirydd).

_This Welsh-language spelling and grammar checker is provided by **Golwg** using
Bangor University’s Cysill API._

## Screenshots

 * [[
 * Mae’r ategyn yn ychwanegu dau fotwm i’r golygydd cofnodion.
 * [[
 * Defnyddiwch y botwm gwirydd i ddangos awgrymiadau sillafu a gramadeg.
 * [[
 * Mae hefyd yn cynnig ffordd syml o osod llythrennau gyda thoeon bach ac acenion
   eraill.
 * [[
 * Gallwch ddefnyddio’r gwirydd o fewn y bloc clasurol yn y golygydd blociau newydd.

## FAQ

### Ydi’r gwirydd yn gweithio gyda HTML a thestun wedi ei fformatio?

Ydi, os yw’r fformatio’n weddol syml.

### Ydi’r gwirydd yn gweithio gyda’r golygydd blociau?

Ar hyn o bryd, mae’r gwirydd yn gweithio gyda’r golygydd clasurol, a blociau clasurol
o fewn y golygydd blociau. Os ydych chi’n defnyddio’r golygydd blociau yn rheolaidd,
ac am wirio testun yn y blociau sylfaenol (hynny yw, nid yr un clasurol), rhowch
wybod i ni—byddai’n ddiddorol gwybod os oes galw am hyn.

### Ydi’r gwirydd yn gweithio gyda rhwydwaith WordPress aml-safle?

Ydi. Gallwch fywiogi’r ategyn ar lefel y rhwydwaith, yna gosod yr allwedd API unwaith
ar gyfer yr holl safleoedd yn y gosodiadau rhwydwaith. Neu, mae modd bywiogi‘r ategyn
ar lefel safleoedd unigol a gosod allweddau API gwahanol iddynt.

### Sut ydw i’n cofrestru i dderbyn allwedd API?

Er mwyn defnyddio’r adnodd sillafu a gramadeg, bydd angen i chi greu [cyfrif ar wefan Porth Technolegau Iaith](https://api.techiaith.org/cy/account/signup/)
ac yna creu [allwedd API ar gyfer y gwasanaeth Cysill Ar-lein](https://api.techiaith.org/cy/apis/cysillapi/).

Awgrymwn i chi _beidio_ â dewis yr opsiwn “Bydd yr allwedd API yn cael ei defnyddio
ar wefan” gan nad yw’r cyfyngiad hwn yn gweithio gyda phob porydd.

### Ydi fy ngwybodaeth bersonol yn ddiogel?

Nodwch y wybodaeth bwysig hon ynglŷn â gwasanaeth Cysill Ar-lein:

> Hoffem i chi fod yn ymwybodol, wrth i chi ddefnyddio Cysill Ar-lein, y bydd eich
> testunau yn cael eu danfon at ein gweinydd(ion) er mwyn gwirio’r sillafu a’r gramadeg.
> Mae Cysill Ar-lein yn cadw copïau o destunau sy’n cael eu gyrru ato er mwyn eu
> cynnwys o fewn corpws o destunau. Bydd y corpws hwnnw yn cyfrannu at ymchwil academaidd,
> gwelliannau yn Cysill a datblygiad technolegau iaith yn y dyfodol. Peidiwch â 
> rhoi unrhyw ddeunydd cyfrinachol neu sensitif i mewn.

## Reviews

![](https://secure.gravatar.com/avatar/ce0b6535b657764bdba3be40bf9acf37705ae25f41c612d18e94f00c13570330?
s=60&d=retro&r=g)

### 󠀁[Ardderchog](https://wordpress.org/support/topic/ardderchog-2/)󠁿

 [Carl Morris](https://profiles.wordpress.org/carlmorris/) February 27, 2021

Gwaith gwych

 [ Read all 1 review ](https://wordpress.org/support/plugin/gwirydd/reviews/)

## Contributors & Developers

“Gwirydd Sillafu Cymraeg” is open source software. The following people have contributed
to this plugin.

Contributors

 *   [ stanno ](https://profiles.wordpress.org/stanno/)

“Gwirydd Sillafu Cymraeg” has been translated into 1 locale. Thank you to [the translators](https://translate.wordpress.org/projects/wp-plugins/gwirydd/contributors)
for their contributions.

[Translate “Gwirydd Sillafu Cymraeg” into your language.](https://translate.wordpress.org/projects/wp-plugins/gwirydd)

### Interested in development?

[Browse the code](https://plugins.trac.wordpress.org/browser/gwirydd/), check out
the [SVN repository](https://plugins.svn.wordpress.org/gwirydd/), or subscribe to
the [development log](https://plugins.trac.wordpress.org/log/gwirydd/) by [RSS](https://plugins.trac.wordpress.org/log/gwirydd/?limit=100&mode=stop_on_copy&format=rss).

## Changelog

#### 1.3

 * Mân-newidiadau.

#### 1.2

 * Y fersiwn gyhoeddus gyntaf.

## Meta

 *  Version **1.3**
 *  Last updated **5 years ago**
 *  Active installations **10+**
 *  WordPress version ** 5.0 or higher **
 *  Tested up to **5.6.17**
 *  PHP version ** 5.6 or higher **
 *  Languages
 * [English (US)](https://wordpress.org/plugins/gwirydd/) and [Welsh](https://cy.wordpress.org/plugins/gwirydd/).
 *  [Translate into your language](https://translate.wordpress.org/projects/wp-plugins/gwirydd)
 * Tags
 * [grammar](https://pcd.wordpress.org/plugins/tags/grammar/)[spelling](https://pcd.wordpress.org/plugins/tags/spelling/)
 *  [Advanced View](https://pcd.wordpress.org/plugins/gwirydd/advanced/)

## Ratings

 5 out of 5 stars.

 *  [  1 5-star review     ](https://wordpress.org/support/plugin/gwirydd/reviews/?filter=5)
 *  [  0 4-star reviews     ](https://wordpress.org/support/plugin/gwirydd/reviews/?filter=4)
 *  [  0 3-star reviews     ](https://wordpress.org/support/plugin/gwirydd/reviews/?filter=3)
 *  [  0 2-star reviews     ](https://wordpress.org/support/plugin/gwirydd/reviews/?filter=2)
 *  [  0 1-star reviews     ](https://wordpress.org/support/plugin/gwirydd/reviews/?filter=1)

[Add my review](https://wordpress.org/support/plugin/gwirydd/reviews/#new-post)

[See all reviews](https://wordpress.org/support/plugin/gwirydd/reviews/)

## Contributors

 *   [ stanno ](https://profiles.wordpress.org/stanno/)

## Support

Got something to say? Need help?

 [View support forum](https://wordpress.org/support/plugin/gwirydd/)